Datganiad o Fwriad:
Fel llais democrataidd dros gymunedau Abergele fe fydd y Cyngor yn gweithio tuag at ddiogelu dyfodol cynaladwy a bywiog yn economaidd, a chymdeithas iach, ddiogel, holl-gynhwysol.
Amcanion:
- I hyrwyddo a chynrychioli safbwyntiau'r gymuned
- I wasanaethu'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn Abergele, a'r rhai hynny sy'n ymweld â'r dref
- I hybu treftadaeth hanesyddol a diwylliannol Abergele ac i ddiogelu ei hamgylchfyd naturiol a'i dalgylch adeiladau
- I gyd-weithio gyda phob corff arall, boed yn statudol, yn gyhoeddus, yn breifat, gwirfoddol neu gymunedol, er mwyn gwella safon bywyd a lles y gymdeithas, ac i hyrwyddo'r dref mewn modd gweithgar a phositif.
I gyflawni'r amcanion hyn mae Cyngor Tref Abergele wedi cytuno ar y Nodau canlynol:
- I ymgynghori gyda'r gymuned i sefydlu ei gobeithion am y dyfodol
- I hyrwyddo bywiogrwydd ac ymarferoldeb Abergele
- I gymell a chymryd rhan mewn partneriaeth ac asiantaeth, gan weithio gyda'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel ym mhob cyfeiriad er budd Abergele, ei thrigolion ac ymwelwyr.
- I hyrwyddo polisiau cynaladwy a fydd yn ymgyrraedd at wella'r amgylchfyd a bodloni gofynion y trigolion ac ymwelwyr yn awr ac i'r dyfodol
- I helpu creu cymdeithas holl-gynhwysol, ofalgar sy'n cynnwys y trigolion i gyd, ac sy'n amcanu at hyrwyddo'u lles, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, a'u cydweithredu â'i gilydd
- I ymdrechu i sicrhau amgylchfyd dymunol, glân a diogel
- I baratoi gwasanaethau o ansawdd uchel, gwerth yr arian, ac i adolygu'r gwasanaethau hynny'n rheolaidd
- I gefnogi grwpiau gwirfoddol lleol sy'n ceisio helpu'r trigolion, a'r ymwelwyr i Abergele