Cynllunio
Mae Cyngor y Dref yn ymgynghorydd statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio i ddatblygiadau yn ardal Abergele. Fe dderbynir copiau o geisiadau cynllunio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac fe’u hystyrir gan y Cyngor ddwywaith y mis yn ei gyfarfodydd Pwyllgorau Cyffredinol a Chynllunio . Os gwelwch yn dda cyfeiriwch at agenda’r cyfarfodydd sydd i ddod am fanylion y ceisiadau i’w hystyried. Gellir gweld manylion y ceisiadau a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol, gan gynnwys sylwadau’r Cyngor, yn Schedule ‘A’ ar ddiwedd y Cofnodion.
Dylid nodi mai gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y mae’r awdurdod statudol i benderfynu ar geisiadau cynllunio, ac nid gan Gyngor y Dref
I weld y rhestr wythnosol o’r ceisiadau cynllunio neu’r rhestr bythefnosol o benderfyniadau
cynllunio’r Cyngor Bwrdeistref Sirol, cliciwch yma.
Am wybodaeth a chyngor ar gyfer gwneud cais, neu i lawrlwytho’r ffurflenni cais, cliciwch yma.
Trwyddedu
O dan amodau’r Ddeddf Drwyddedu,2003, nid yw Cyngor y Dref yn ymgynghorydd statudol, ac ni all ond cyflwyno cynrychioliadau ar faterion trwyddedu ar gais pobl sy’n byw’n agos iawn at yr adeilad y gwneir y cais ar ei gyfer. Rhaid arddangos datganiadau yn yr adeilad, a’u cyhoeddi yn y wasg leol i hysbysu cymdogion bod cais am drwydded wedi ei gyflwyno.